Rhan 1

 (dydd Gwener)

Rhan 2

(dydd Sadwrn)

Advertisements
Mattoidz (llun: Rhys Llwyd)

Mattoidz (llun: Rhys Llwyd)

[Cofnod wedi’i groes-bostio o flog Ivan – Ys Dywed y Fi]

Ces i glywed am gig Hanner Cant am y tro cyntaf ar Twitter, ychydig ar ôl iddyn nhw ddechrau cyhoeddi enwau, trwy aildrydariadau.  I ddechrau, do’n i ddim yn talu gormod o sylw – dw i’n gweld eitha lot o drydar am gigs a gwyliau bach cerddorol Cymraeg, ac yn anffodus, dw i’n byw yn ddigon pell i ffwrdd bod hi ddim yn werth y daith fel arfer, heblaw bod nhw’n cyd-ddigwydd efo rhywbeth arall o ddiddordeb yn yr ardal.  Ond rhywbryd yn y Gaeaf, des i sylweddoli nad gŵyl arferol oedd hyn, ar ôl darllen bod hi’n bosib gweld 50 o fandiau am £20 (cyn hynny o’n i wedi methu rhywsut i wneud y cysylltiad rhwng yr enw a’r nifer o artistiaid).  Allan o’r cwestiwn, felly, i mi golli cyfle mor unigryw i weld cymaint o gerddorion ar yr un pryd!

A wnaeth y cerddorion hynny ddim siomi: nid jest y rhai o’n i’n methu aros i’w gweld (fel Mattoidz, un o’m huchafbwyntiau personol), ond hefyd rhai do’n i ddim wedi gwerthfawrogi ar y radio, wnaeth droi allan i fod yn wych yn fyw (am Geraint Lovgreen yn enwedig dw i’n meddwl yma).  Ac wrth gwrs y darganfyddiadau newydd – erbyn hyn dw i wedi prynu albwms gan 9Bach, Twmffat a Maffia Mr Huws, artistiaid anghyfarwydd i mi dim ond ychydig wythnosau yn ôl.

Ond roedd y profiad yn fwy na hynny.  Cyn cyrraedd, do’n i ddim cweit wedi dallt faint mor fawr, cyffrous a hanesyddol oedd o.  Roedd maint yr adeilad a’r llwyfannau yn un peth (o’n i’n disgwyl rhywbeth tebyg i gigs bach Cymraeg arferol – am sioc!).  Ac roedd yn ysbrydoliaeth gweld faint o dalent sydd allan yna yn y sîn.  Ond beth darodd fi y mwyaf oedd faint o rôl hanfodol mae Cymdeithas, ac ymgyrchu yn gyffredinol, wedi chwarae yn hanes cerddoriaeth gyfoes Cymru.  O’n i’n ymwybodol o hynny i ryw raddau, dw i’n meddwl, ond a bod yn onest do’n i ddim wirioneddol wedi meddwl amdani gormod: i ymgyrchwyr mae’r diolch bod sîn mor fywiog yn bodoli yn y lle cyntaf!  Ac ym Mhafiliwn Bont, yn gwrando ar Dafydd Iwan yn sôn am ei brotestio bron i hanner canrif yn ôl, ac yn canu ymlaen efo’i ganeuon adnabyddus, ces i’r teimlad ‘mod i bellach yn rhan o’r hanes hynny.

Felly, do, mi oedd Hanner Cant yn fwy na gig: es i lawr i Bont jest yn ffan o gerddoriaeth Gymraeg, ond des i ‘nôl yn aelod o Gymdeithas, ac yn awyddus i helpu sicrhau bydd pethau fel hyn yn gallu digwydd am flynyddoedd i ddod.

Gruff Rhys - "Diolch"

Gruff Rhys – “Diolch” (Llun: Rhys Llwyd – CC-BY-NC)

“Ow mai god dwi’n hen ac yn sobor.”

Hanner oed cymdeithas yr iaith ydw i, felly dydw i ddim yn hen, ond mi oeddwn i’n sicr yn sobor a finna newydd yrru lawr o’r gogledd. Oherwydd gwaith a pacio’r car roedd hi wedi 6 arna ni yn cychwyn yn iawn ac wedi 9 o’r gloch arna ni’n cyrraedd y maes pebyll. A dyna pam i mi ddweud y geiriau uchod. Roedd y maes pebyll yn llawn pebyll ac yn llawn pobl yn codi tentiau neu yn eistedd tu allan tentiau, ac roedd pob un ohonyn nhw yn iau na mi, ac yn yfed fal tasa na ddim fory.

Dyma godi tent (gan fod yn falch iawn o fy welingtyns), a mynd i mewn i’r gig cyn gynted a bo modd i gal dal i fyny gyda’r meddwi ac anghofio nad oeddwn i’n ddeunaw mwyach.

Wrth gerdded mewn i’r pafiwliwn, dyma sylweddoli sut mae oed yn newid profiada gig rhywun.

Pan yn ddeunaw, ma rhywun yn trio yfad gymaint a sydd bosib a gwario cyn lleied sydd bosib a dim ond wedyn mae’r miwsig yn bwysig (dyna f’atgofion i bethbynnag). A dyna pam yr holl bobl meddw ifanc yn y maes pebyll. Cal “head start” cyn dechra talu am beintiau y tu mewn i’r gig.

Rwan fy mod i’n “hen” (dwi’n defnyddio’r term â thafod yn fy moch), ydw dwi isho peint, oes dwi eisiau gwario cyn lleied a sydd bosib ond bod yma sydd bwysica’ i mi. Cerddoriaeth, Cwmni da a seidr. Cal bod yn rhan bach bach o’r digwyddiad hanesyddol yma a chael profi yr holl gerddoriaeth. A wyddoch chi be? Dwi’n edrych mlaen i dyfu fyny efo cerddoriaeth a gigiau Cymraeg achos ella na fydd o’r un peth ac oedd o o’r blaen, ond dydi huna ddim bob amser yn ddrwg.

Mi oedd Hanner Cant yn f’atgoffa i o pan oedd mam a dad yn mynd a fi a ‘mrawd i gigiau pan yn blant bach. Cofio rhedeg o gwmpas yr holl bobl meddw yn Sesiwn Fawr Dolgellau. Cofio cysgu yng nghefn y gig tra oedd mam a dad yn downsio yn Cnapan. Roedd na atmosffer tebyg iawn yn hanner cant gyda’r neuadd bentref yn hafan i bobl â theuluoedd ifanc.

Am rwan, mi nai fwynhau bod yn ifanc(ish) a cal gneud petha gwirion(ish), ond dydi tyfu fyny ddim yn golygu diwedd gigiau Cymraeg, a ma Hanner Cant wedi f’atgoffa i o hynny.

Osian a Lawrence yn croesawu (a Greg yn edrych yn ddifrifol)

Dwi’n cofio edrych ar wefan Hanner Cant am y tro cyntaf a meddwl … wir yr? A fyddai hi’n bosib stwffio 50 o fandiau Cymraeg i un penwythnos mawr? Roedd y syniad ar y cychwyn yn swnio’n un gwallgof ac amhosib…

O hynny ymlaen felly, roeddwn cael cip-olwg ar y wefan yn wythnosol, gan weld y dyddiau’n pasio heibio a rhif yr artistiaid yn cynyddu. Doedd dim rwan i’w wneud ond aros tan y penwythnos mawr, i weld a fyddai’r cynllwyn yn dod yn llwyddiannus o flaen fy llygaid.

Ac wrth i’r amser fynd heibio, roedd y cynnwrf yn codi, a chyn hir fe roedd y tocynnau ar werth ac mi es ati ar amrant i archebu. Doedd dim wedyn i’w wneud ond aros. Lanswyd Sianel 62 ym mis Chwefror, a dyma rywbeth arall a gynnyddodd y cyffro wrth i’r wythnosau wibio heibio, wrth i artistiaid gael eu cyhoeddi ar y sianel bob wythnos, gan chwarae fidios cerddoriaeth yr artistiaid ac yn y blaen.

Daeth y tocynnau trwy ein drysau, fe drodd y diwrnodau’n oriau, ar oriau’n funudau, ar munudau’n eiliadau … Fe ddaeth y dydd, y 13eg o Orffennaf 2012, y dydd roedd sawl un ohonom wedi disgwyl amdano am fisoedd maith, hir yw pob ymaros, ond roedd roedd yn teimlo’n hirach y tro yma … Cynnwrf amwn ni …

Cyrhaeddom y Bont, y car yn llawn pabelli a chadeiriau. A phwy well i’n croesawu wrth fynedfa’r maes campio, na Osian a Lawrence – Ynghyd a cherddoriaeth Anweledig, a photel o rywbeth meddwol… Dyma ddechrau’r penwythnos gorau erioed…

Aeth y pabelli i fyny, aeth potel neu ddwy i lawr, cyrhaeddodd pawb yn llawn cynnwrf, a doedd y tywydd ddim ar ei orau ‘bnawn Gwener, ond doedd affliw o otsh o hynny – Roedd hi’n amser dathlu! Fe drodd hi’n chwech o’r gloch, a dechreuodd y gerddoriaeth!

Ar ol hynny, does yna ddim llawer fedrai ddweud, oherwydd mae gen i gymaint o atgofion da, mae’n amhosib eu cynnwys i gyd mewn rhyw bwt bach fel hyn. Ond gallaf ddweud, fod yna dalent amhrisiadwy wedi ymddangos ar y llwyfanau drost y penwythnos a phawb i weld yn mwynhau gwrando ar bob un. Mae hyn felly’n dangos, fod dyfodol disglair i’r sin gerddoriaeth yng Nghymru.

Roedd hi’n deimlad braf iawn cael bod yn un criw mawr drwy’r holl benwythnos.

Fel rhan o’n set yn gig Hanner Cant fe ofynon i David a fyddai’n hoffi cyfrannu rhywbeth i’r noson, dyma oedd ganddo i ddweud

Yr Ods

Gwylio’r sgrîns. Llun: Gary Pritchard.

Wrth dyfu fyny yng Nghaergybi, doedd gigs Cymraeg byth ar ein radar ni … yn wir, roedd mynychu ysgol Gymraeg yn golygu bod fy nghyfoedion yn y dref yn fy ngweld i fel person dra gwahanol – byddai gwrando ar gerddoriaeth Cymraeg hefyd wedi bod yn gam rhy bell iddyn nhw!

Yn amlwg, roedd records Caryl Parry Jones, Edward H. Dafis ac Eliffant yn cael eu chwarae yn nisgo’r ysgol yn rheolaidd, ond nid ein cerddoriaeth ni oedd hwn, cerddoriaeth yr athrawon oedd o.

Fe gymrodd hi cryn tipyn o flynyddoedd cyn i mi ddarganfod cerddoriaeth Gymraeg oedd at fy nant i, ac fe ddaeth y darganfyddiad o gyfeiriad digon annisgwyl.

Mae’r rhai sydd yn fy adnabod yn gwybod mai pêl-droed yw fy niléit mwyaf yn yr hen fyd ‘ma, a diolch i ffansîn pêl-droed Two Left Feet y daeth yr epiffani.

Cyhoeddodd Dylan Llywelyn, golygydd y ffansîn arbennig yma, gasét o gerddoriaeth Cymraeg gydag un rhifyn.

Ar gasét “Dicky, Dicky, Dick Krzywicki, na, na, na, na, na” roedd cân yr un gan Ffa Coffi Pawb, Beganîfs, Datblygu a Tŷ Gwydr.

Fel rhywun oedd ddim yn mynychu Eisteddfodau, doeddwn i erioed wedi clywed cerddoriaeth Cymraeg o’r fath o’r blaen – dwi’n gwybod ei fod yn swnio’n ddigon od i bobl sydd wedi tyfu fyny yn gwrando ac yn mynychu gigs Cymraeg, ond i mi, roedd hyn yn chwyldroadol!

Yna wrth ddilyn tîm pêl-droed Cymru i bedwar ban byd a dod yn ffrindiau gyda Dylan a chriw gwallgof U-Thant (a Cofion Ralgex!), dechreuais sylweddoli fwy fwy bod ‘na fandiau Cymraeg cŵl … a hefyd bod rhai o’r bandiau ‘ma yn dod o ardaloedd gyda llai o Gymry Cymraeg na Chaergybi hyd yn oed, ac oedd, mi oedd hi’n oce i wrando ar y bandiau ‘ma!

Dwi’n ffrindiau hyd heddiw gyda chriw U-Thant (gawn ni wahodd nhw tro nesaf plis Sgiv?) yn wir roedd un ohonnyn nhw yn eistedd wrth fy ochr yn y tryc VT wrth i ni weithio ar ddarllediadau S4C i gwmni Rondo nos Wener a thrwy’r dydd ddydd Sadwrn.

Treuliodd Iwan Pryce, cyn gitarydd U-Thant, a minnau bron i 21 awr yn y tryc dros y deuddydd a dwi’n amau bod ‘na llawer iawn o bobl ym Mhontrhydfendigaid wedi gwylio mwy o fandiau na ni’ll dau dros y penwythnos wrth i ni baratoi’r darllediadau.

Ond daeth yr uchafbwyntiau i mi ar ôl i ni orffen darlledu ar y ddwy noson wrth gamu allan o’r tryc ac i mewn i’r pafiliwn er mwyn dawnsio i synnau Tŷ Gwydr a Llwybr Llaethog.

Roedd fel mynd yn ôl mewn amser ac o edrych o fy nghwmpas roedd pawb oedd i weld yn dawnsio ac yn mwynhau i gyd yr un oed a fi!

Ond yn fwy na’r bandiau, roedd y waliau fideo bob ochr i’r llwyfan yn dangos cyfres o glipiau ffilm gwych oedd yn ein hatgoffa pam ein bod yna yn mwynhau hanner cant o fandiau Cymraeg … a hynny er mwyn dathlu hanner can mlynedd o weithredu dros y Gymraeg.

Llongyfarchiadau mawr i’r Gymdeithas am brocio cydwybod rhywun oedd wedi anghofio’r gwaith arbennig sydd wedi ei wneud dros hanner canrif ond sydd bellach wedi ail ymaelodi.

Gorwedd gyda’r morgrug. Llun: Rhys Llwyd.

Dwi’n smotiau bach cochion i gyd, a myn cacen i, maen nhw’n cosi. Fy mai i oedd o cofiwch. Mi gymres i hoe fach o’r bandiau a’r tywyllwch a mynd i eistedd ar fryncyn i lowcio sosej a tsips heb sylwi mod i wedi tarfu ar nyth morgrug. Deud y gwir, hyd yn oed ar ôl i mi sylwi, mi benderfynais i fod yn ystyfnig, cadw fy sedd tamp, a gwylio’r cnafon bychain wrth eu gwaith. Biti garw hefyd, achos mi fethais i gychwyn yr halibalŵ a achosodd i Eilir Pierce waldio Ceri Cunnington hefo can reit lawn o Worthington…oedd yn lot fawr o sbort.

Mi ddof i at y pwynt cyn hir. Daeth fy mrawd bach i hefo fi i hanner cant. Dyma’r gig gyntaf go iawn (h.y. campio a rhyddid a ballu) iddo fo gael mynd iddo erioed, a gan ei fod o bellach yn 15, roeddwn i’n teimlo dyletswydd fel chwaer fawr i sicrhau ei fod o’n cael deud wrth bobl pan fydd o’n hŷn, ‘mi oeddwn i yna’. Ar y ffordd adre, mae fy mrawd bach i’n rhestru’r bandiau y gwnaeth o eu mwynhau fwyaf, ac yn deud ei fod o am fod yn aelod o gell Cymdeithas yr Iaith newydd yn Llanuwchllyn. Dwi ddim yn meddwl fod cell wedi bod yn Llanuwchllyn ers ein cell pedwar aelod ni bron i ddeng mlynedd yn ôl. Mae gan y brawd bach a minnau syniadau gwahanol iawn am beth ydi cerddoriaeth dda, ond mae’n anhygoel mai’r un cynhwysion – cerddoriaeth a chwmni da – sydd wedi sbarduno’r ddau ohonom ni i weithredu ar y dynfa ofnadwy ‘ma sydd yno ni gyd i sicrhau dyfodol yr iaith.

A heddiw, wrth i mi grafu un smotyn bach cwynfanllyd, feldrai’m peidio â gwenu. Mae pob un ohonyn nhw’n fy atgoffa i fod byddin newydd o forgrug bach gweithgar wedi cael eu hysbrydoli gan un penwythnos gwyllt ym Mhontrhydfendigaid. ‘Ymlaen’ mae nhw’n deud, ie?

Pontrhydfendigaid. Dathliad 50 mlynedd o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg.
Mark Lugg hetiedig yn ol gyda Gareth Potter y Llychlynwr yn llenwi’r neuadd a rhiddmau a reu. Ble byddai Cymru heb Gymdeithas yr Iaith? Diolch iddynt am drefnu gwyl a thynodd y miloedd ati o Ogledd a De. I ni sy’n byw mewn trefi Seisnigaidd, mae cael penwythnos o Gymreictod ‘naturiol’ yn achubiaeth brin. Er y bydden nhw’n dymuno peidio a gorfod bodoli o gwbl maen nhw’n angenrheidiol. Hir oes i’r mudiad.

Sianel YouTube Drychaf

Bob Delyn yn Hanner Cant. Llun: Rhys Llwyd

Bob Delyn yn Hanner Cant. Llun: Rhys Llwyd

Dwi ddim yn hen nac yn ifanc chwaith

Dwi run un oed â Chymdeithas yr Iaith

Dwi ddim. Twm Morys sy’n hanner cant, a fo ganodd y geiriau yna nos Wener mewn sèt o ganeuon cyfarwydd a hyfryd Bob Delyn a’r Ebillion. Tra’n mwynhau’r sèt wnes i sylweddoli mod i ‘di bod angen eu gweld nhw – angen fy  ffics achlysurol o stwff da.

Dwi’n 42  a ‘di bod yn mynd i gigs Cymraeg ers 1984.  Adeg hynny mi drodd “mynd i gigs Cymraeg” ryw swits mlaen yn fy mhen fel mod i’n gweld yr iaith fel mwy na rhywbeth ro’n i wedi bod yn dysgu yn yr ysgol ers yn 6 oed. Roedd o’n allwedd i ddiwylliant cyffrous, byw a… wel, secsi! Cafodd lot fawr o’r gigs ‘na – rhai mawr a bach – eu trefnu gan Gymdeithas yr Iaith, a fues i’n ran o drefnu bysus i rai ac wedyn o drefnu rhai eraill.

Yn y garafan lle wnes i gysgu (wel, nos Wener o leia!) dros benwythnos gig Hanner Cant roedd ‘na hen ddyddiadur poced Y Lolfa o 1987. Mae o’n llawn o gigs a chyfarfodydd cell ac achosion llys a rhifau ffôn pobl oedd yn ymwneud â’r sîn gigs a’r Gymdeithas adeg hynny. Welais i lot ohonyn nhw dros y penwythnos, ac yn union fel sèt Bob Delyn, roedd hi’n hyfryd i gael fy ffics o hen ffrindiau.  Da cael hel atgofion a chadarnhau pam ‘mod i di dewis perthyn i’r diwylliant cyffrous hwn.

A’r hyn oedd yn well fyth oedd gweld ffrindiau newydd a chymaint o fandiau gwych ifanc (a ddim mor ifanc!) dwi’n anghyfarwydd â’u gweld yn fyw. Dwi ‘di clywed lot ar y radio, do, ond prin ‘di’r cyfleon i weld llawer ohonyn nhw yn rheolaidd. Da ni angen eu gweld nhw. Mae nhw angen ein gweld ni. A diolch i’r cyfle prin a gafwyd ym Mhontrhydfendigaid (ac ar S4C a Radio Cymru) gawson ni weld lot fawr o’n gilydd dros y penwythnos.

Mae mynd i gig Hanner Cant ‘di codi cyffro newydd. Ma ‘di troi swits arall, neu o leia wedi codi lefel y golau, fel bod fy llygaid (sy’ ddim yn hen nac yn ifanc chwaith) yn gallu gweld bod diwylliant mynd i gigs, a threfnu gigs yn dal i fod yn gyffrous ac yn secsi. Diolch am hynny. Be’ am i ni gyd drio wneud rhywbeth i’w gadw fo’n fyw hefyd ia?

Angharad Tomos. Llun: Rhys Llwyd.

Mae Angharad Tomos wedi sgwennu erthygl ardderchog am Hanner Cant a’r ‘Ysbryd Mawr’ yn yr Herald Cymraeg. Gallwch ddarllen y cyfan fan hyn, ond dyma rai ddyfyniad:

Gallent, fel mudiad uniongred, digyfaddawd, droi y dathliad yn extravagansa propaganda. Manteisio ar y dathliad i gyhoeddi’r maniffesto i’r byd. Crefu ar bawb i ail-ymaelodi. Traethu gwahanol benodau o’r efengyl – Chwe phwynt Deddf Eiddo, cymalau annerbyniol y Mesur Iaith, Cynghrair Cymunedau Cymru ac Ail-strwythuro y Drefn Addysg. Mae’n siwr iddo fod yn demtasiwn.

Ond mi feddyliodd rhywun beth oedden ni’n ei ddathlu mewn gwirionedd? A’r ateb i hwnnw ydi ‘yr ysbryd mawr’ fel y canodd Steve Eaves amdano. Dim ond ei fod yn anodd i’w esbonio, ond mor hawdd i’w adnabod. Dathlu hwnnw a wnaed ym Mhontrhydfendigaid.

REU - Ty Gwydr Hanner Cant

REU – Ty Gwydr yn Hanner Cant. Llun: Rhys Llwyd

Nos Wener – tua 3am – mae Tŷ Gwydr newydd gau’r noson ac mae’r dorf tu allan yn gwrthod mynd i’w pebyll. Fi’n crwydro o gwmpas yn trio ffilmio blog fideo ar gyfer Sianel62. Fi’n dod ar draws Gai Toms a Mr Huw. Ni’n cyfnewid cwpl o jôcs (rhai fi yw’r gore). A dyna pryd ddigwyddodd y peth ni ddylem byth sôn am…y peth hollol anghredadwy!!! Nes i ffilmio’r holl beth ond naeth Gai Toms gorfodi fi i addo peidio byth ag uwchlwytho fe i Youtube. Welais i e bore Sadwrn hefyd…ac yn y prynhawn. Roedd ei lygaid yn wyllt – wedodd e eto i beidio ag uwchlwytho fe i Youtube. Dwi ‘di penderfynu peidio uchwlywtho fe…

Peth rhyfedd yw, naeth Mr Huw ddim dangos unrhyw wrthwynebiad ar unrhyw adeg….UNRHYW ADEG!!!

Owain Sgiv yn Hanner Cant. Llun Rhys Llwyd.

Owain Sgiv yn Hanner Cant. Llun Rhys Llwyd.

Mae ‘na lot fawr fyswn i’n gallu dweud am gig 50. Mae o wedi rheoli canran reit helaeth o fy mywyd i, a threfnwyr eraill dwi’n siŵr, ers bron i ddwy flynedd.

Mae’n deimlad rhyfedd bod y penwythnos wedi pasio erbyn hyn ac efo’r ymateb syfrdanol sydd wedi bod dwi ddim yn credu fy mod i wedi cael amser i ddadansoddi’r peth yn llawn eto.

Dwi’n siŵr y bydda i’n sgwennu cofnod llawnach am y peth yn y man, ond am y tro dwi am bostio rhywbeth byr iawn fan hyn er mwyn cyfrannu at brosiect Nwdls.

Felly dyma’r peth gorau, a’r peth gwaethaf o’r gwaith trefnu i mi’n bersonol:

Y peth gorau

Cael y cyfle i gydweithio â phobl ymroddedig fel Iwan Standley, Huw Lewis, Llyr Bermo ac Aled Ifan dros gyfnod hir i drefnu digwyddiad cofiadwy.

Y peth gwaethaf

Y gwaith papur…yn benodol, cytundebau 50 o artistiaid cerddorol, a sgwennu 50 o biogs ar gyfer y rhaglen swyddogol!

Noson Claddu Reu:  llun (h) Pete Telfer - http://culturecolony.com

(h) Pete Telfer – Y Wladfa Newydd

Dwi wedi sylweddoli ar ôl blynyddoedd o gwffio yn ei erbyn o taw cerddoriaeth yw’r un peth diwylliannol Cymraeg sydd yn gallu croesi ffiniau fel dim un arall. Mae cerddoriaeth yn treiddio trwy gymaint o ffiniau. Dwi wedi bod yn trio hyrwyddo y llun a’r gair (ffilm/fideo a blogio/sdwff ar y we) ers troad y mileniwm ond yn sylwi rwan cymaint mwy yw’r grym diwylliannol sydd gan gerddoriaeth.

************

Am gyfnod rhwng  tua 1995 a 2002 mi es i ar drywydd cerddorol oedd yn buryddol iawn. Doeddwn i bron iawn ddim ond yn gwrando ar gerddoriaeth electronig oedd yn amlach na pheido heb iaith o gwbl ynddo fo. Roedd o fel rhyw fath o grefydd i fi dwi’n meddwl. Mi ddes i allan y pen arall yn crefu am amrywiaeth cerddorol yn fy mywyd a ffeindiais i hynny drwy fynd i wyliau gyda ffrindiau oedd yn herio fy nhast cerddorol i’r eitha a mynd trwy archif cerddoriaeth o bob math do’n i ddim wedi ei drio eto. Roedd Soulseek yn help mawr yn hynny o beth gan adael i fi drio pob math o sdwff heb brynu, ond prynu wedyn os oeddwn i wir yn hoffi.

*************

Ta waeth, nos Wener mi ges i ryw deimlad rhyfedd iawn. Mi ges i fy nhaflu nol mewn i un o’r momentau wnaeth ddechrau fy nhroedigaeth i fiwsig electronig. Roedd Tŷ Gwydr yn chwarae yn Bont, bron i 20 mlynedd union ar ôl iddyn nhw chwarae yn yr un lle yn Noson Claddu Reu. Daeth diwylliant rave yn rhan o mywyd a dim ond darn bach oedd Tŷ Gwydr ond roedd yn ddarn andros o bwysig am ei fod wedi gwneud y cysylltiad yna rhwng fy hunaniaeth Gymraeg a’r diwylliant cyffrous, peryglus, trawsffurfiol oedd yn fy swyno. Nhw oedd yn sdopio fi rhag dieithrio’n llwyr o ddiwylliant Cymraeg. Doedd gen i ddim diddordeb mewn nifer fawr o’r bandiau ar y pryd. Dwi ddim yn cofio mynd i lot o gigs rhwng tua 1995 a 2002. Fues i ddim i ambell Steddfod o gwbl. Roedd cerddoriaeth indie / roc yn gwbl wrthun i werthoedd y diwylliant roeddwn i am fod yn rhan ohoni. Roedd Anweledig oedd wedi dechrau fel band ffync / Acid Jazz yn prysur ddarnganfod eu llais ska/funk/reggae oedd ddim gymaint at fy nhast, roedd ambell i beth fel Albert Hoffmann oedd yn hwyl ond ddim ond yn gneud gigs byw achlysurol. Roedd Ffa Coffi, Y Cyrff, Hanner Pei, Tynal Tywyll, a nifer o fandiau eraill aeth a fi drwy’n arddegau wedi morffio mewn i fandiau eraill neu wedi gadael y sîn. Dim ond artistiaid fel Wwzz a Tokyu oedd yn dal y llinyn cyswllt yna i fi at gerddoriaeth Gymraeg am dipyn. Peth cwbl bersonol oedd hyn, a dim barn ar y bandiau. Daeth Tystion fel bom ar y sîn yn ’97 ond doedd dim cymaint a hynny o  ddiddordeb gen i am ryw reswm. Roeddwn i mewn trench cerddorol. Y blinkers mlaen wrth anelu am y curiadau mwyaf pleserus.

************

Wrth wrando ar Tŷ Gwydr nos Wener a gweld neb bron yn dawnsio, ond yr ychydig bobol oedd â chof o’r diwylliant oedd yn cyd-fynd â Tŷ Gwydr, mi sylwais cymaint o wahaniaeth sydd rhwng cynulleidfa rwan a chynulleidfa 20 mlynedd nôl. Roeddwn i’n grair o oes a fu. Crair oedd yn fodlon dawnsio. Rhan arall o’r profiad oedd yn od oedd y peth arbennig yna sy’n dod o ddawnsio i gerddoriaeth dyrchafol fel Tŷ Gwydr sef gwneud cysylltiadau gyda phobol eraill sydd yn dawnsio. Roedd y cysylltiadau hynny’n rhai cwbl ar hap weithiau gan ennyn sgyrsiau gyda phobol na fuaswn i fyth yn meddwl siarad a nhw.  Digwyddodd hynny nos Wener, a dwi byth wir yn cael y teimlad yna mewn gigs arferol hyd yn oed mewn moshpits.

************

Wrth fynd ar grwydr yn niwylliant cerddoriaeth electronig gan symud o rave i hardcore i trance tecno label React, i acid tecno Prolekult, i tecno minimal Hawtin i tech house Terry Francis i big beat Skint a Wall of Sound, i nu skool breakz ac wedyn ffeindio taw deep house DIY, Toko, Sneak ac ati oedd y greal cerddorol sanctaidd i fi. Nes i hefyd fynd ar grwydr yn gymdeithasol a diwylliannol gan wneud llawer o gylchoedd o ffrindiau newydd a cholli gafael rhyw chydig ar ddiwylliant Cymraeg. Sdopiais i ddarllen Cymraeg, sdopiais i feddwl am wleidyddiaeth Gymraeg, ac am wleidyddiaeth iaith mewn unrhyw ffordd ddofn. Doedd hyn ddim ar bwrpas nac chwaith yn golygu mod i’n siarad llai o Gymraeg. Jest bod fi ddim yn ymwneud efo trafod sdwff Cymraeg gymaint â hynny.

Ond tua 2003 mi ges i fynediad at y we, wnaeth wneud i fi ailddargnafod diwylliant Cymraeg cyfoethog oedd yn gwneud fi’n gyffrous eto. Mi roddodd Maes-e ffenest i fi ar rywbeth newydd a ffordd o fod yn gynhyrchiol eto gyda phobol newydd ar ôl cyfnod i ffwrdd. Roeddwn i’n teimlo’n rhan o rywbeth. I raddau mae gig Hanner Cant yn frig ton ddiwylliannol a ddechreuodd gyda maes-e yn 2003 yn ogystal â bod yn ail-ddarllediad o donnau eraill sydd wedi bod dros yr hanner can mlynedd ddiwethaf. Dwi wir yn credu bod maes-e wedi esgor ar, neu ail-danio, cenhedlaeth o gynhyrchwyr diwylliannnol sydd yn siapio diwylliant Cymraeg o’r newydd. Dwi ddim yn son am gics fan hyn er bod nhw’n rhan ohono hefyd ond pob agwedd ar ddiwylliant Cymraeg o gerddoriaeth i gelf a chomedi o newyddiaduraeth i wleidyddiaeth. Y peth digri i fi felly wrth feddwl am Noson Claddu Reu eto yw taw maes-e oedd teitl y gân Datblygu oedd ar y sengl na roddwyd yn fy llaw gan Alun Llwyd, efallai, ar y drws. Y sengl yna sydd dal fyny staer ac sydd wedi rhoi ei enw i ffynhonell egni ddiwylliannol na fyddai unrhywun yn 1992 wedi dychmygu.

*************

Ac felly nôl at Hanner Cant. Er cymaint fwynheais i’r foment retro gyda Tŷ Gwydr, y bandiau cyfoes sydd wedi tanio’r gig yn y pen draw. Roedd Crash Disco! yn wych, mae’r Angen yn solid, roedd Eilir Pierce yn awyr iach, Blaidd yn blydi swpyrb, Cowbois (er nad ydw i’n ffan mwya o’r genre) o’r safon uchaf un. Roedden nhw’n arwain eu ton nhw, a dwi’n meddwl bod Hanner Cant ei hun fel rhyw beiriant cynhyrchu egni diwylliannol fydd yn creu tonnau eraill. Felly er bod nifer yn dweud y dylid cael un bob blwyddyn, y peth pwysicaf yw’r effaith ripple yna rwan, yr egni ma gig fel’na’n gallu ei roi i bobol i fynd ati a gneud eu sin eu hunain. Dwi’n gwbl hyderus y gwelwn ni’r tonnau egni diwylliannol yna’n mynd allan o Bont am y blynyddoedd i ddod. Oedd, roedd Hanner Cant i fi yn fwy na dim ond gig. Gobeithio bydd hanes yn fy mhrofi’n iawn, ei fod yr un fath i bobol eraill hefyd.

Logo Hanner Cant

Roedd cymaint o bethau’n mynd trwy fy meddwl yn ystod gig Hanner Cant. Roedd rhaid i fi eu sgwennu nhw lawr, felly es i ati neithiwr i ddechrau rhoi rhyw gofnod blog at ei gilydd. Roedd yn troi allan bod lot o eiriau’n llifo allan a llawer o wahanol bethau gwahanol yn dod i mhen, cymaint na faswn i falla’n gorffen yr erthygl. Wnes i drydar am hyn a chael yr ateb yma gan Gai Toms:

Felly dyma greu’r blog yma i drio cael hanner can cofnod sydd un ai wedi eu ysbrydoli gan, neu’n straeon am gig Hanner Cant.

Os oedd y gig wedi’ch ysbrydoli chi fel wnaeth o fy ysbrydoli i, yna be am sgwennu pwt, creu fideo, neu recordiad sain i’w gynnwys ar y wefan yma. Bydd yn gofnod da o’r amrywiaeth o ffyrdd oedd Hanner Cant yn fwy na dim ond gig.

Sdim rhaid sgwennu lot. Gall fod yn frawddeg neu’n lith, yn fideo neu’n gerddoriaeth. Does dim fformat penodol, yr unig linyn trwyddyn nhw ddyla fod cyswllt efo gig Hanner Cant.

Sut i fynd ati:

Gallwch chi ebostio cofnod at blemaergymraeg@gmail.com

NEU

Sgwennu cofnod eich hun…dyma sut i wneud hynny:

  1. cliciwch yma
  2. mewngofnodwch gyda’r enw defnyddiwr ‘hannercant’ gyda’r cyfrinair ‘gig50’
  3. Un ai cliciwch yma i greu cofnod newydd, neu ysgrifennwch gofnod yn y blwch ‘cofnod cyflym’
  4. cliciwch ar a gwasgwch y botwm glas ‘anfon’ .

REU.