Noson Claddu Reu:  llun (h) Pete Telfer - http://culturecolony.com

(h) Pete Telfer – Y Wladfa Newydd

Dwi wedi sylweddoli ar ôl blynyddoedd o gwffio yn ei erbyn o taw cerddoriaeth yw’r un peth diwylliannol Cymraeg sydd yn gallu croesi ffiniau fel dim un arall. Mae cerddoriaeth yn treiddio trwy gymaint o ffiniau. Dwi wedi bod yn trio hyrwyddo y llun a’r gair (ffilm/fideo a blogio/sdwff ar y we) ers troad y mileniwm ond yn sylwi rwan cymaint mwy yw’r grym diwylliannol sydd gan gerddoriaeth.

************

Am gyfnod rhwng  tua 1995 a 2002 mi es i ar drywydd cerddorol oedd yn buryddol iawn. Doeddwn i bron iawn ddim ond yn gwrando ar gerddoriaeth electronig oedd yn amlach na pheido heb iaith o gwbl ynddo fo. Roedd o fel rhyw fath o grefydd i fi dwi’n meddwl. Mi ddes i allan y pen arall yn crefu am amrywiaeth cerddorol yn fy mywyd a ffeindiais i hynny drwy fynd i wyliau gyda ffrindiau oedd yn herio fy nhast cerddorol i’r eitha a mynd trwy archif cerddoriaeth o bob math do’n i ddim wedi ei drio eto. Roedd Soulseek yn help mawr yn hynny o beth gan adael i fi drio pob math o sdwff heb brynu, ond prynu wedyn os oeddwn i wir yn hoffi.

*************

Ta waeth, nos Wener mi ges i ryw deimlad rhyfedd iawn. Mi ges i fy nhaflu nol mewn i un o’r momentau wnaeth ddechrau fy nhroedigaeth i fiwsig electronig. Roedd Tŷ Gwydr yn chwarae yn Bont, bron i 20 mlynedd union ar ôl iddyn nhw chwarae yn yr un lle yn Noson Claddu Reu. Daeth diwylliant rave yn rhan o mywyd a dim ond darn bach oedd Tŷ Gwydr ond roedd yn ddarn andros o bwysig am ei fod wedi gwneud y cysylltiad yna rhwng fy hunaniaeth Gymraeg a’r diwylliant cyffrous, peryglus, trawsffurfiol oedd yn fy swyno. Nhw oedd yn sdopio fi rhag dieithrio’n llwyr o ddiwylliant Cymraeg. Doedd gen i ddim diddordeb mewn nifer fawr o’r bandiau ar y pryd. Dwi ddim yn cofio mynd i lot o gigs rhwng tua 1995 a 2002. Fues i ddim i ambell Steddfod o gwbl. Roedd cerddoriaeth indie / roc yn gwbl wrthun i werthoedd y diwylliant roeddwn i am fod yn rhan ohoni. Roedd Anweledig oedd wedi dechrau fel band ffync / Acid Jazz yn prysur ddarnganfod eu llais ska/funk/reggae oedd ddim gymaint at fy nhast, roedd ambell i beth fel Albert Hoffmann oedd yn hwyl ond ddim ond yn gneud gigs byw achlysurol. Roedd Ffa Coffi, Y Cyrff, Hanner Pei, Tynal Tywyll, a nifer o fandiau eraill aeth a fi drwy’n arddegau wedi morffio mewn i fandiau eraill neu wedi gadael y sîn. Dim ond artistiaid fel Wwzz a Tokyu oedd yn dal y llinyn cyswllt yna i fi at gerddoriaeth Gymraeg am dipyn. Peth cwbl bersonol oedd hyn, a dim barn ar y bandiau. Daeth Tystion fel bom ar y sîn yn ’97 ond doedd dim cymaint a hynny o  ddiddordeb gen i am ryw reswm. Roeddwn i mewn trench cerddorol. Y blinkers mlaen wrth anelu am y curiadau mwyaf pleserus.

************

Wrth wrando ar Tŷ Gwydr nos Wener a gweld neb bron yn dawnsio, ond yr ychydig bobol oedd â chof o’r diwylliant oedd yn cyd-fynd â Tŷ Gwydr, mi sylwais cymaint o wahaniaeth sydd rhwng cynulleidfa rwan a chynulleidfa 20 mlynedd nôl. Roeddwn i’n grair o oes a fu. Crair oedd yn fodlon dawnsio. Rhan arall o’r profiad oedd yn od oedd y peth arbennig yna sy’n dod o ddawnsio i gerddoriaeth dyrchafol fel Tŷ Gwydr sef gwneud cysylltiadau gyda phobol eraill sydd yn dawnsio. Roedd y cysylltiadau hynny’n rhai cwbl ar hap weithiau gan ennyn sgyrsiau gyda phobol na fuaswn i fyth yn meddwl siarad a nhw.  Digwyddodd hynny nos Wener, a dwi byth wir yn cael y teimlad yna mewn gigs arferol hyd yn oed mewn moshpits.

************

Wrth fynd ar grwydr yn niwylliant cerddoriaeth electronig gan symud o rave i hardcore i trance tecno label React, i acid tecno Prolekult, i tecno minimal Hawtin i tech house Terry Francis i big beat Skint a Wall of Sound, i nu skool breakz ac wedyn ffeindio taw deep house DIY, Toko, Sneak ac ati oedd y greal cerddorol sanctaidd i fi. Nes i hefyd fynd ar grwydr yn gymdeithasol a diwylliannol gan wneud llawer o gylchoedd o ffrindiau newydd a cholli gafael rhyw chydig ar ddiwylliant Cymraeg. Sdopiais i ddarllen Cymraeg, sdopiais i feddwl am wleidyddiaeth Gymraeg, ac am wleidyddiaeth iaith mewn unrhyw ffordd ddofn. Doedd hyn ddim ar bwrpas nac chwaith yn golygu mod i’n siarad llai o Gymraeg. Jest bod fi ddim yn ymwneud efo trafod sdwff Cymraeg gymaint â hynny.

Ond tua 2003 mi ges i fynediad at y we, wnaeth wneud i fi ailddargnafod diwylliant Cymraeg cyfoethog oedd yn gwneud fi’n gyffrous eto. Mi roddodd Maes-e ffenest i fi ar rywbeth newydd a ffordd o fod yn gynhyrchiol eto gyda phobol newydd ar ôl cyfnod i ffwrdd. Roeddwn i’n teimlo’n rhan o rywbeth. I raddau mae gig Hanner Cant yn frig ton ddiwylliannol a ddechreuodd gyda maes-e yn 2003 yn ogystal â bod yn ail-ddarllediad o donnau eraill sydd wedi bod dros yr hanner can mlynedd ddiwethaf. Dwi wir yn credu bod maes-e wedi esgor ar, neu ail-danio, cenhedlaeth o gynhyrchwyr diwylliannnol sydd yn siapio diwylliant Cymraeg o’r newydd. Dwi ddim yn son am gics fan hyn er bod nhw’n rhan ohono hefyd ond pob agwedd ar ddiwylliant Cymraeg o gerddoriaeth i gelf a chomedi o newyddiaduraeth i wleidyddiaeth. Y peth digri i fi felly wrth feddwl am Noson Claddu Reu eto yw taw maes-e oedd teitl y gân Datblygu oedd ar y sengl na roddwyd yn fy llaw gan Alun Llwyd, efallai, ar y drws. Y sengl yna sydd dal fyny staer ac sydd wedi rhoi ei enw i ffynhonell egni ddiwylliannol na fyddai unrhywun yn 1992 wedi dychmygu.

*************

Ac felly nôl at Hanner Cant. Er cymaint fwynheais i’r foment retro gyda Tŷ Gwydr, y bandiau cyfoes sydd wedi tanio’r gig yn y pen draw. Roedd Crash Disco! yn wych, mae’r Angen yn solid, roedd Eilir Pierce yn awyr iach, Blaidd yn blydi swpyrb, Cowbois (er nad ydw i’n ffan mwya o’r genre) o’r safon uchaf un. Roedden nhw’n arwain eu ton nhw, a dwi’n meddwl bod Hanner Cant ei hun fel rhyw beiriant cynhyrchu egni diwylliannol fydd yn creu tonnau eraill. Felly er bod nifer yn dweud y dylid cael un bob blwyddyn, y peth pwysicaf yw’r effaith ripple yna rwan, yr egni ma gig fel’na’n gallu ei roi i bobol i fynd ati a gneud eu sin eu hunain. Dwi’n gwbl hyderus y gwelwn ni’r tonnau egni diwylliannol yna’n mynd allan o Bont am y blynyddoedd i ddod. Oedd, roedd Hanner Cant i fi yn fwy na dim ond gig. Gobeithio bydd hanes yn fy mhrofi’n iawn, ei fod yr un fath i bobol eraill hefyd.

Advertisements